Fish yn arwyddo | Fish Commits
Rydym wrth ein boddau yn datgelu fod Fish wedi arwyddo cytundeb newydd tan 2029 ar ôl cyfnod llwyddiannus ar ac oddi ar y cae.
Rheolwr tîm cyntaf y dynion, Richard Fish Davies.
‘Dwi’n falch iawn o arwyddo’r cytundeb newydd hwn gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon. Mae’n anrhydedd enfawr, a ‘dwi’n teimlo’n wirioneddol freintiedig i gael parhau i arwain clwb sy’n golygu cymaint i mi. Mae ein taith hyd yma wedi ei seilio ar waith caled, undod, ac awydd i godi safonau ar y cae yn ogystal ag oddi arno. Mae’r llwyddiant rydym wedi ei fwynhau wedi deillio o gyfraniad pawb sy’n ymwneud â’r clwb, o’r chwaraewyr, y staff ac aelodau’r bwrdd, i’n cefnogwyr arbennig sy’n ein cefnogi wythnos ar ôl wythnos. Mae fy angerdd dros y clwb hwn yn ddwfn, a byddwn yn ymdrechu yn y bennod newydd hon i godi’r safonau ymhellach fyth, adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni, a gyrru’r clwb ymlaen gydag uchelgais, ffydd, ac ymrwymiad ar y cyd i barhau i greu hanes gyda’n gilydd.
Paul Evans, Cadeirydd
Rydym yn falch iawn ein bod wedi creu cytundeb hirdymor newydd gyda Richard. Fo ydy’r rheolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, ar ôl ein harwain i Ewrop ddwywaith ac ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed. Rydym hefyd yn credu mai fo yw’r rheolwr gorau yn y gêm Gymreig. Mae pawb yn y clwb yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth y gallwn ei gyflawni hefo’n gilydd yn y dyfodol.
—————————-
We’re delighted to announce that Fish has signed a contact extension until 2029 following a period of unprecedented success on and off the pitch.
Richard Fish Davies, Men’s first team manager.
I’m absolutely delighted to sign this new deal with Caernarfon Town. It’s a tremendous honour, and I feel genuinely proud and privileged to continue leading a club that means so much to me. Our journey so far has been built on hard work, Togetherness , and a relentless drive to improve the standards on & off the pitch. The success we’ve enjoyed is a testament to everyone involved, from the players staff , board members as well as our incredible supporters who get behind us every single week. My passion for this club runs deep, and this new chapter is about pushing standards even higher, building on what we’ve achieved, and driving Caernarfon Town forward with ambition, belief, and a shared commitment to keep making history together.
Paul Evans, Chairman.
We are really pleased to have agreed on a new long term contract with Richard. He is the most successful manager in our history, leading us into Europe twice and winning the Welsh Cup for the first time ever and we believe he is the best manager in the Welsh game. Everyone at the club is excited at the prospect of seeing what we can achieve together in the future.
Diolch
🔰