Clwb Cefnogwyr CPD Caernarfon Town FC Supporters’ Club
Ar yr 16eg o Ebrill 2026, pleidleisiodd y mwyafrif helaeth o aelodau Clwb Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caernarfon i drosglwyddo rheolaeth a gwaith dydd-i-ddydd yr Adeilad a gweithgareddau'r Clwb Cefnogwyr i'r Clwb Pêl-droed.
O ganlyniad i’r gwaith sylweddol sy'n cael ei wneud ar gae'r Oval, ynghyd â'r ffaith bod y clwb pêl-droed wedi cynnal gemau Pencampwriaeth Ewro Dan 19 a chynnal gêm ei hun yn yr UEFA Conference League, cytunwyd y byddai bwrdd presennol y Clwb Cefnogwyr yn parhau yn eu rôl tan 1 Awst.
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Paul Evans, yn dymuno rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol:
"Rydw i’n falch o ddweud y byddwn, fel y cynlluniwyd, yn dechrau ar y gwaith o redeg y Clwb Cefnogwyr o ddydd i ddydd ar y 1af o Awst.
Rydym wedi sefydlu tîm rheoli fydd yn gyfrifol am redeg y clwb o'r dyddiad hwnnw ymlaen, a gallaf gadarnhau mai aelodau cychwynnol y tîm hwn fydd:
Cadeirydd: Paul Evans
Is-gadeirydd: Haydn Hughes
Ysgrifennydd: Bethan Fon Bryant Roberts
Trysorydd: Julie Felton
Rheolwr Adloniant: Andrew Walton
Cynrychiolydd Cefnogwyr Pêl-droed: Jamie Richardson
Cynrychiolydd yr Aelodau: Carwyn Thompson
Cynrychiolydd yr Aelodau: Ethan Pritchard
Aelod o'r Tîm: Pat Frost
Aelod o'r Tîm: Sandra Jones
Rydym hefyd wedi penodi Darren Billinghurst yn stiward rhan-amser i’r clwb.
Dros y tri mis diwethaf, mae wedi bod yn bleser gweithio'n agos gyda'r bwrdd presennol, ac rydw i am ddiolch iddynt am ein helpu drwy'r cyfnod hwn o bontio.
Rydw i’n gobeithio bod rhai o'r newidiadau yr ydym ni eisoes wedi'u gweithredu dros y tri mis diwethaf, gan gynnwys penodi stiward rhan-amser, sefydlogi'r staff a gweddnewid yr ardd gwrw, wedi bod yn welliannau sydd wedi bod o fudd i aelodau'r clwb.
Rydym i gyd yn deall y bydd llawer o heriau ar hyd y ffordd ac y gall camgymeriadau gael eu gwneud. Fodd bynnag, gallaf addo i'r holl aelodau y byddwn yn gweithio'n ddiflino i wella pethau, i estyn croeso cynnes i bawb ac i ddarparu clwb y gallwch fod yn falch ohono.
Ein dymuniad yw i bawb weithio gyda'i gilydd a bod yn rhan o'r hyn yr ydym yn gobeithio fydd yn daith gyffrous, fydd yn gweld y clwb yn tyfu i fod ymhlith y gorau yn y wlad."
Paul Evans.
——————————
On April 16, 2026 the members of Caernarfon Town Football Supporters' Club overwhelmingly passed a resolution approving the transfer of the day-to-day management and operation of the Premises and the activities of the Supporters' Club to the Football Club.
Due to the substantial work being carried out at the club’s Oval ground, in addition to the football club hosting European Under 19’s Championship matches and its very own European Conference League fixture, an agreement was made that the current Supporters’ Club Board would continue its role until August 1st.
Caernarfon Town Football Club chairman Paul Evans wishes to share an update on the current position:
“I am pleased to say that, as planned, we will be taking over the day to day running of the supporters club on August 1st. We have set up a management team to be responsible for running the club from this date and I can confirm that the initial members of this team will be:
Chairman: Paul Evans
Vice Chairman: Haydn Hughes
Secretary: Bethan Fon Bryant Roberts
Treasurer: Julie Felton
Entertainment Manager: Andrew Walton
Football Supporter Representative: Jamie Richardson
Members Representative: Carwyn Thompson
Members Representative: Ethan Pritchard
Team Member: Pat Frost
Team Member: Sandra Jones
We have also appointed Darren Billinghurst as part-time steward of the club.
Over the past three months it has been a pleasure to work closely with the current board and I want to thank them for helping us through this transitional period.
I hope that some of the changes we have already implemented during the past three months, including appointing a part-time steward, stabilising the staff team and giving the beer garden an overhaul have been improvements that have benefitted the club’s members.
We all understand that there will be many challenges along the way and that mistakes may be made. However, I can promise all the members that we will be working tirelessly to improve things, to provide a warm welcome to everyone and to give you a club to be proud of.
Our wish is for everyone to work together and be part of what we hope will be an exciting journey which will see the club being amongst the finest in the country.”
Paul Evans.