FORZA X CAERNARFON
Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda chwmni dillad FORZA. Mewn cyfnod cyffrous i’r clwb, sydd newydd ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf ac yn paratoi i ymddangos mewn gemau Ewropeaidd am yr ail waith yn ei hanes, rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â’r cwmni. Byddant yn darparu crysau’r holl dimau, dillad ac offer ar gyfer sesiynau hyfforddi, yn ogystal â nwyddau hamdden hefyd.
Dywedodd Sam Williams o FORZA:
“Mae’r partneriaeth cyffrous yma efo Caernarfon yn anrhydedd mawr i ni. Dyma un o’r clybiau gyda’r cefnogaeth fwyaf yn y wlad, ennillwyr Cwpan Cymru a chlwb sy’n paratoi am antur Ewropeaidd arall. Mae’n fraint bod Caernarfon wedi ymddiried ynddom ni i’w cefnogi gyda dillad ac offer technegol o’r maes ymarfer i’r cae ar ddiwrnod gêm. Mae gennai ffrindiau da yng Nghaernarfon a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw a dod i’r Oval newydd sbon i weld y Cofis yn gwisgo FORZA yn Ewrop mis Mehefin!”
Wrth ddychwelyd yn ôl i gae’r Oval wedi blwyddyn o waithadnewyddu, bydd y bartneriaeth yn symbol gweledol o gyfeiriad uchelgeisiol y clwb dros y tymor sydd i ddod. Cadwch lygad am fwy o newyddion drwy Fanbase, a’r nwyddau fydd gael ar ein siop newydd ar-lein – cofiarmy.com.
——————————
Caernarfon Town Football Club is very pleased to announce a new partnership with sportswear company FORZA. At an exciting time for the club, having just won the Welsh Cup for the first time and preparing to appear in European matches for the second time in its history, we look forward to working with the company. They will provide kits for all teams, clothing and equipment for training sessions, as well as leisurewear.
FORZA said,
“Partnering with Caernarfon Town Football Club is a huge privilege for us with our Teamwear division still in its infancy. One of the best supported clubs in Wales, current Welsh Cup Champions, and another European Campaign on the horizon, we're delighted to be entrusted by the club to support them with their technical training requirements through from training to matchday, both on and off the pitch. I've a lot of good friends at Caernarfon too that I personally look forward to working with again, and can't wait to see them at the newly renovated Oval wearing FORZA for the first time in Europe in July."
As we return to the Oval after a year of redevelopment work, this partnership reflects the club’s ambitions for the season ahead. Look out for more updates on Fanbase, along with details of the products available on our new online shop, cofiarmy.com.