COFIS X ACHIEVE MORE TRAINING
Lansio Rhaglen Brentisiaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol CPD Caernarfon – Menter Gymunedol i Gefnogi Ysgolion
Mae Rhaglen Brentisiaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol CPD Caernarfon, a ddarperir mewn partneriaeth ag Achieve More Training, yn cynnig modd dynamig a chynaliadwy i ysgolion cynradd gryfhau eu haddysg gorfforol, chwaraeon a chefnogaeth ystafell ddosbarth.
Mae’r fenter gydweithredol hon yn galluogi i ysgolion gael mynediad at brentisiaid wedi’u hyfforddi i safon uchel sy’n gwella darpariaeth AG, yn ehangu gweithgareddau allgyrsiol, yn cefnogi addysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac yn cyfrannu at flaenoriaethau ehangach yr ysgol. Hyn oll wrth ysbrydoli disgyblion trwy rym a hunaniaeth CPD Caernarfon!
Dull Cymunedol o Gefnogi Ysgolion
Mae prentisiaid mewn ysgolion partner yn ennill cymhwyster Lefel 3 fel Hyfforddwyr Chwaraeon a Chynorthwywyr Addysgu, sy’n eu harfogi â’r sgiliau a’r hyder i gael effaith uniongyrchol.
Trwy ddylanwad y Clwb, mae prentisiaid yn rhoi cymorth i:
- Gynyddu cyfranogaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- Hyrwyddo llais, dewis ac ymdeimlad o berthyn ymhlith pobl ifanc
- Gwella ymgysylltiad a phresenoldeb disgyblion
- Cefnogi gwelliant mewn cyrhaeddiad a lles
- Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymreig
Mae’r model blaengar hwn yn cryfhau ysgolion drwy recriwtio, hyfforddi a datblygu dawn leol, gan sicrhau bod y rhaglen o fudd i ddisgyblion a’r gymuned ehangach.
Manteision i Ysgolion
Mae ysgolion partner sy’n ariannu lleoliad prentis yn derbyn pecyn cymorth cynhwysfawr, sy’n cynnwys:
- Gwasanaeth recriwtio prentisiaid di-dâl a reolir gan Achieve More Training
- 30 awr yr wythnos o gymorth yn yr ysgol ar draws AG, chwaraeon a gweithgareddau dosbarth
- Darparu rhaglenni a sesiynau swyddogol CPD Caernarfon
- Mentora strwythuredig a hyfforddiant proffesiynol gan y lleoliad ac Achieve More Training
- Rheolaeth gyflogres ac adnoddau dynol llawn drwy Ap-prentis
- Mynediad at gyfleoedd cyfoethogi megis ymweliadau addysgol â’r stadiwm, digwyddiadau STEM a/neu ddigwyddiadau rhanbarthol blynyddol (e.e. Pencampwriaethau Ewro Dan 19)
- Gwahoddiadau a chymorth ychwanegol ar gyfer cystadlaethau rhyng-ysgol
- Cydnabyddiaeth swyddogol fel Ysgol Gynradd Bartner CPD Caernarfon - ymuno â rhwydwaith rhanbarthol sy’n siapio arloesedd cwricwlaidd, ymgysylltiad ieuenctid, ac iechyd a lles
Manteision i Brentisiaid
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig llwybr gyrfa gref i’r rhai sy’n dymuno gweithio ym maes chwaraeon ac addysg:
- Ennill cyflog wrth ddysgu ar gytundeb tymor ysgol, o leiaf 30 awr yr wythnos
- Cyflawni NVQ Lefel 3 mewn AG a Chwaraeon Ysgol, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i NVQ Lefel 4 mewn Iechyd a Lles
- Derbyn cit swyddogol Prentis AG a Chwaraeon Ysgol CPD Caernarfon
- Ennill profiad ymarferol o ddarparu gwersi AG, cefnogi chwaraeon ysgol a chynorthwyo addysgu yn y dosbarth
- Mynychu sesiynau hyfforddi misol yn stadiwm y Clwb a derbyn mentora parhaus yn y gweithle
- Mynediad at gyfleoedd unigryw i ddarparu a chymryd rhan mewn digwyddiadau proffil uchel a phrofiadau unigryw CPD Caernarfon
Buddsoddi mewn Pobl Ifanc ac Ysgolion Lleol
Mae Rhaglen Brentisiaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol CPD Caernarfon yn ateb arloesol a chymunedol i staffio mewn ysgolion a chyfoethogi profiadau disgyblion. Trwy gyfuno ymgysylltiad clwb pêl-droed proffesiynol â llwybrau hyfforddi ac addysg strwythuredig, mae’r fenter yn cefnogi ysgolion, yn datblygu gweithwyr proffesiynol y dyfodol, ac yn cryfhau cymunedau lleol.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â dod yn ysgol bartner neu ymgeisio fel prentis, cysylltwch ag Achieve More Training neu CPD Caernarfon heddiw:
achievemoretraining.com/contact
Caernarfon FC PE and School Sport Apprentice Programme Launches Community-Focused School Support Initiative
The Caernarfon FC PE and School Sport Apprentice Programme, delivered in partnership with Achieve More Training, provides primary schools with a dynamic and sustainable way to strengthen physical education, sport, and classroom support.
This collaborative initiative gives schools access to highly trained apprentices who enhance PE provision, expand extra-curricular activities, support classroom learning, and contribute to wider school priorities. All while inspiring pupils through the power and identity of Caernarfon FC!
A Community-Driven Approach to School Support
Apprentices placed within partner schools achieve a Level 3 qualification as Sports Coaches and Teaching Assistants, equipping them with the skills and confidence to make an immediate impact.
Through the influence of the Club, apprentices help:
- Increase participation in sport and physical activity
- Promote youth voice, choice, and belonging
- Enhance pupil engagement and attendance
- Support improved attainment and wellbeing
- Promotion of the Welsh language and culture
This forward-thinking model strengthens schools by recruiting, training, and developing local talent, ensuring the programme benefits both pupils and the wider community.
Benefits for Schools
Partner schools funding an apprentice placement receive a comprehensive support package, including:
- Free apprentice recruitment service managed by Achieve More Training
- 30 hours per week of in-school support across PE, sport, and classroom activities
- Delivery of official Caernarfon FC programmes and sessions
- Structured mentorship and professional training provided by host placements and Achieve More Training
- Full payroll and HR management via Ap-prentis
- Access to enrichment opportunities such as educational stadium visits, STEM events and/or other regional events hosted each year. EG U19 Euro championships.
- Invitations and additional support for inter-school competitions
- Official recognition as a Caernarfon FC Primary Partner School, joining a regional network shaping curriculum innovation, youth engagement, and health and wellbeing
Benefits for Apprentices
The programme also offers a strong career pathway for aspiring sports and education professionals:
- Earn while you learn on a minimum 30-hour term-time contract
- Achieve a Level 3 NVQ in PE & School Sport, with progression opportunities to a Level 4 NVQ in Health & Wellbeing
- Receive official Caernarfon FC PE and School Sport Apprentice kit
- Gain practical experience delivering PE lessons, supporting school sport, and assisting classroom learning
- Attend monthly training sessions at the Club’s stadium and receive ongoing workplace mentoring
- Access unique opportunities to deliver and participate in high-profile events and exclusive Caernarfon FC experiences
Investing in Young People and Local Schools
The Caernarfon FC PE and School Sport Apprentice Programme represents an innovative, community-first solution to school staffing and pupil enrichment. By combining professional football club engagement with structured training and education pathways, the initiative supports schools, develops future professionals, and strengthens local communities.
For more information on becoming a partner school or applying as an apprentice, contact Achieve More Training or Caernarfon FC today: